Y Grŵp Trawsbleidiol ar Fenywod

Menywod a’r system gyfiawnder

Dydd Gwener 17 Mawrth 2023, drwy gyfrwng Zoom, 11:30–12:30

 

 

Yn bresennol:

Siân Gwenllian AS

Rhianon Bragg (Siaradwr)

Joanne Starbuck, Cymorth i Ferched, Caerdydd

Sarah Thomas, Llwybrau Newydd

Jackie Jones, Menywod yn Ewrop (Cymru)

Jane Fenton-May, Cynulliad Merched Cymru

Nancy Lidubwi, Bawso

Leila Usmani, Cynghrair Hil Cymru

Carwen Wynne Howells

Leanne Waring, Coleg Caerdydd a'r Fro

Emma Hall, Chwarae Teg

Bethan Sayed, Climate Cymru

Allie Iftikhar, Cymorth i Ferched Cymru

Tomos Evans, Chwarae Teg

Megan Thomas, Anabledd Cymru

Christina Tanti, Race Equality First

Alison Parken, Ysgol Busnes Caerdydd

Carol Harris, Hafan Cymru

Jessica Laimann, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (WEN Cymru)

Sioned Williams, WEN Cymru

Joy Matibiri, WEN Cymru

 

 

Ymddiheuriadau:

Janet Finch-Saunders AS

Llyr Gruffydd AS

Delyth Jewell AS

Sarah Murphy AS

Jane Dodds AS

Sioned Williams AS

Emma Henwood, Chwaraeon Cymru

Abi Thomas, Plaid Cymru

Dr Rachel Minto

 


 

1

 

Croeso, Ymddiheuriadau, Cyflwyniad – Cadeirydd

 

Croesawodd Siân Gwenllian AS bawb i’r cyfarfod, gan nodi y byddai’r grŵp yn canolbwyntio ar fenywod a’u profiadau yn y system gyfiawnder. Nodwyd y byddai Rhianon Bragg, sydd wedi goroesi cam-drin domestig, yn rhannu ei phrofiadau o ran sut y gwnaeth y system gyfiawnder yng Nghymru gam â hi.

 


 

2

 

Sut mae'r system gyfiawnder yn gwneud cam â’r rhai sy’n goroesi cam-drin domestig – Rhianon Bragg

 

Eglurodd Rhianon ei bod wedi dioddef aflonyddu, stelcian, a gorfodaeth gan ei chyn bartner am gyfnod o bum mlynedd. Nododd hefyd fod naw mlynedd wedi mynd heibio ers i’r gamdriniaeth ddechrau. Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y system cyfiawnder troseddol wedi gwneud cam â hi ar sawl achlysur. Cafodd ei chais am wiriad o dan gyfraith Clare ei wrthod. Hefyd, er gwaethaf ymddygiad bygythiol y cyflawnwr tuag ati hi a’i phlant, dychwelodd yr heddlu ynnau iddo, gan roi Rhianon a’i phlant mewn perygl. Dywedodd ei bod wedi cyflwyno mwy na 24 o gwynion, a’i bod wedi cael gwybodaeth wallus am ei hawliau, gan gynnwys awgrym nad oedd ganddi hawl i apelio. Yn ogystal, cafodd adroddiad gan seicolegydd, a oedd yn cynnwys manylion ynghylch effaith y trawma arni hi a'i phlant, ei rannu'n â’r cyflawnwr a'i gyfreithiwr, a hynny ar gam. Dywedodd ei bod  hi'n ofni y byddai’n cael ei ddefnyddio yn ei herbyn.

Rhannodd Rhianon nifer o argymhellion ynghylch yr hyn sydd angen ei newid o fewn y system cyfiawnder troseddol er mwyn sicrhau nad yw goroeswyr eraill yn dioddef profiadau tebyg: 

 

·         Dylid cael gwared ar yr agwedd 'codi ysgwyddau' o fewn y system gyfan. Mae angen sicrhau bod cam-drin domestig a stelcio yn cael eu cymryd o ddifri, yn enwedig gan uwch swyddogion yr heddlu ac yn y llysoedd;

·         Mae angen gwella’r cyfathrebu sy’n digwydd rhwng adrannau a chyda dioddefwyr, gan sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu am eu hawliau;

·         Dylai pob aelod o staff gael eu hyfforddi mewn modd priodol, a dylent lynu wrth ddull sy'n seiliedig ar drawma;

·         Dylid cael gwared ar gasineb tuag at fenywod o fewn y system cyfiawnder troseddol;

·         Dylid hyfforddi swyddogion yn y llysoedd ynadon ar sut i ymdrin â cham-drin domestig a stelcian;

·         Dylid cydnabod natur benodol cam-drin domestig a stelcian mewn lleoliadau gwledig;

·         Dylid sicrhau bod system gymorth effeithiol ar gael i oroeswyr a’u teuluoedd;

·         Dylid datganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig o weithredu;

·         Mae angen penodi Comisiynydd Goroeswyr i Gymru;

 

Fel argymhelliad cyffredinol, dylai’r system cyfiawnder troseddol roi blaenoriaeth i ddiogelu hawliau goroeswyr yn hytrach na hawliau cyflawnwyr, sef y sefyllfa yr ymddengys ei bod yn bodoli ar hyn o bryd.

 

3

Trafodaeth a chwestiynau gan y rhai a oedd yn bresennol

 

Diolchodd y Cadeirydd a’r rhai a oedd yn bresennol i Rhianon Bragg am ei chyflwyniad pwerus. Gwnaed nifer o sylwadau a gofynnwyd nifer o gwestiynau:

 

Nododd Siân Gwenllian y byddai mabwysiadu dull sy’n cael ei arwain gan ddioddefwyr yn hanfodol o ran sicrhau newid diwylliannol, systemig o fewn y system cyfiawnder troseddol. Nododd fod angen datganoli’r drefn hon er mwyn cyflawni hyn mewn modd cydgysylltiedig.

 

Dywedodd Jessica Laimann y byddai’r cam o ysgrifennu llythyrau at Weinidogion a’r comisiynwyr heddlu a throseddu yn un ffordd o weithredu.

 

Tynnodd Jackie Jones sylw at y ffaith y bydd yr etholiadau ar gyfer y comisiynwyr heddlu a throseddu yn cael eu cynnal ym mis Mai 2024, a nododd y byddai’n syniad da gwahodd ymgeiswyr i’r grŵp a gofyn iddynt gefnogi hyn.

 

Cododd Megan Thomas yr heriau ychwanegol y mae menywod anabl yn eu hwynebu yn sgil diffyg mannau lloches hygyrch, a’r ffaith bod cyflawnwyr weithiau’n gofalu amdanynt.

 

Awgrymodd Bethan Sayed y dylid rhannu tystiolaeth Rhianon am yr angen i ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru gyda’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. 

 

Awgrymwyd y gallai’r grŵp ganolbwyntio'n benodol ar y gwasanaeth prawf mewn cyfarfod diweddarach. Dywedodd Rhianon fod y gwasanaeth prawf yn cael ei danariannu a’i or-ymestyn. Ychwanegodd fod yr aildroseddu cyson ymhlith cyflawnwyr yn dangos bod y gwasanaeth yn methu.

 

Tynnodd Leila Usmani sylw at bwysigrwydd ystyried profiadau menywod o leiafrifoedd ethnig a mabwysiadu agwedd groestoriadol. Mae uwch-gŵyn ar y gweill ar hyn o bryd ynghylch sut mae’r heddlu’n ymdrin ag achosion o gam-drin rhywiol ymhlith menywod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, a’r rhai sydd mewn perygl o gael eu cam-drin ar sail anrhydedd.

 

Nododd Allie Iftikhar fod rhwydwaith goroeswyr Cymorth i Ferched Cymru yn ategu’r pryderon ynghylch y system gyfiawnder a gafodd eu mynegi yn ystod y cyfarfod.

 

Nododd Alison Parker fod Prifysgol Caerdydd wedi dechrau edrych yn fwy manwl ar drais domestig, aflonyddu rhywiol a chasineb tuag at fenywod, a’i bod yn bwriadu cynnal cynhadledd ym mis Medi. Dywedodd ei bod yn croesawu unrhyw awgrymiadau ar gyfer siaradwyr a phynciau i'w trafod yn ystod y gynhadledd.

 

4

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Grŵp Menywod yn Ewrop (Cymru) – Jackie Jones

Tynnodd Jackie Jones sylw at yr effaith ddinistriol y gallai Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ei chael yng nghyd-destun diogelu hawliau menywod a chydraddoldeb rhywiol yn y DU a Chymru. Mae’r Bil yn cynnwys “ymyl clogwyn” arfaethedig ar 31 Rhagfyr 2023, sy’n golygu y gallai amddiffyniadau a enillwyd drwy waith caled gael eu colli dros nos, gan gynnwys mesurau sy’n ymwneud â chyflog cyfartal, polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, beichiogrwydd a gweithio rhan-amser.

O ran y cynnydd a wneir o fewn yr UE, mae’r gyfarwyddeb ynghylch menywod ar fyrddau cwmnïau yn adnodd hanfodol o ran dylanwad menywod ar y broses o annog newid sefydliadol a systemig.

Mae’r gyfarwyddeb ddrafft ynghylch brwydro yn erbyn trais ar sail rhywedd a cham-drin domestig yn mynd rhagddi, sy’n gam enfawr ymlaen ar ôl blynyddoedd o gael ei rhwystro.

Mae cyfarwyddeb ddrafft ynghylch triniaeth gyfartal sy’n ymwneud â diweddaru polisïau yn cael ei rhwystro ar hyn o bryd, ond mae wedi'i chyflwyno i Senedd Ewrop.

Mae Cyngor Ewrop a’r UE wedi bod yn edrych ar ddarpariaethau masnachu mewn pobl ers i’r “Bil Mewnfudo Anghyfreithlon” newydd symud y ffocws i ffwrdd o ddiogelu dioddefwyr masnachu i’r masnachwyr.  Mae hyn yn niweidiol gan ei fod yn tanseilio hawliau dynol sylfaenol. Awgrymodd Nancy Lidubwi ei bod yn bosibl gweld eisoes effaith negyddol y “Bil Mewnfudo Anghyfreithlon” ar fenywod sy'n cael eu masnachu i'r DU.

Dywedodd Jessica Laimann, yn sgil effaith ddifrifol cyfraith yr UE a ddargedwir ar hawliau gweithwyr benywaidd, y gallai fod yn ddefnyddiol ysgrifennu llythyrau at San Steffan yn manylu ar bryderon o’r fath.

5

Unrhyw fater arall

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf:  9 Mehefin 2023 Awgrymwyd y gallai’r grŵp drafod Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir a’i effaith ar fenywod yn ystod y cyfarfod hwnnw.

 

6

Diwedd